Skip to content

Lôn Dinas, Criccieth

PROPERTY TYPE

Maisonette

BEDROOMS

2

BATHROOMS

2

SIZE

682 sq ft

63 sq m

Describes how you own a property. There are different types of tenure - freehold, leasehold, and commonhold.Read more about tenure in our glossary page.

Key features

  • Beautifully renovated two-bedroom maisonette
  • Less than a minute’s walk to the beach
  • Bespoke open-plan kitchen and living space
  • Underfloor heating throughout the ground floor
  • South-facing enclosed garden with outdoor cooking area
  • Garden office
  • Heritage sash windows and original character features
  • Lime-plastered walls and eco-conscious renovation throughout
  • Smart home heating, lighting and security system
  • Share of freehold with no external landlord

Description

English Below

“Cartref wedi’i ystyried yn ofalus, dim ond camau o’r môr.”

Wedi’i leoli ar Lôn Stanley yng Nghriccieth, mae’r ‘maisonette’ dwy ystafell wely hwn wedi’i adnewyddu’n hyfryd i greu gofod tawel, ystyrlon sy’n teimlo’n naturiol ac yn gartrefol o’r eiliad dachi’n camu i mewn.

Wrth ddod lawr y grisiau o’r drws ffrynt i’r gofod byw, mae newid yn yr awyrgylch - lle sy’n gynnes ac yn groesawgar, gyda lloriau llechi naturiol gyda gwres o dan y llawr, waliau wedi’u plastro gyda ‘lime plaster’ gyda chorneli crwn, a golau naturiol yn llifo drwy ffenestri ‘sash’ traddodiadol.

Mae’r gegin wedi’i ddylunio’n ‘bespoke’, gyda sinc Belfast, pantri, a digon o le i fyw bob dydd yn hawdd. Mae drws sy’n llithro ar gau i ganiatáu i’r gofod fod yn agored neu’n fwy preifat, gan greu hyblygrwydd yn y cartref.

Mae’r llawr gwaelod yn llifo’n hyfryd allan i’r ardd gaeedig sy’n gwynebu’r De, gyda lle i fwyta tu allan ac swyddfa ardd. O’r fan hon, mae’r traeth o fewn llai na munud o gerdded - cysylltiad arbennig â’r amgylchedd.

I fyny’r grisiau, ceir dwy ystafell wely ddwbl, gan gynnwys prif ystafell eang gyda ffenestr bae a cypyrddau wedi’u hadeiladu’n arbennig, ynghyd ag ystafell ymolchi fychan gyda bath a chawod ‘RainFall’.

Drwy’r cartref, mae deunyddiau naturiol a manylion meddylgar - waliau wedi’u paentio â phaent ‘linseed’ naturiol, insiwleiddio cryf â gwlân dafad, a system cartref clyfar sy’n rheoli gwresogi a’r goleuadau, o’ch ffôn

Mae Criccieth yn gymuned fywiog gyda llwybrau cerdded, ysgolion, nofio gwylt, siopau a chaffis ar stepen y drws - ond yma, y môr sydd wrth galon bywyd bob dydd.

Cartref i’r rhai sy’n gwerthfawrogi symlrwydd, ansawdd, a ffordd fwy ymwybodol o fyw.

  • EPC - C

  • Band Treth Cyngor - B

  • Gwres Canolog Nwy

  • Ffenestri Haen Dwbwl ‘Heritage Sash Windows’ drwy’r t

  • “Share of Freehold” - Mae costau cynnal a chadw yn gymhedrol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu eich bod yn rhannu cost yswiriant adeilad blynyddol ac unrhyw waith trwsio allanol achlysurol gyda’r eiddo arall ar sail 50/50.

  • Ni fydd LTT yn daladwy ar yr eiddo hwn.

“A thoughtfully considered home, just moments from the sea.”

Located on Lôn Stanley in Criccieth, this beautifully renovated two-bedroom maisonette has been carefully reimagined to create a calm, meaningful space that feels both natural and welcoming from the moment you step inside.

As you descend the steps from the front door into the living space, there’s an immediate shift in atmosphere - a warm and inviting setting with natural slate floors and underfloor heating, lime-plastered walls with soft rounded edges, and natural light flowing through traditional sash windows.

The kitchen has been bespoke designed, featuring a Belfast sink, pantry, and plenty of space for everyday living. A sliding door allows the space to be either open and sociable or more private, offering flexibility within the home.

The ground floor flows beautifully out into the enclosed, south-facing garden, with space for outdoor dining and a garden office. From here, the beach is less than a minute’s walk away - a truly special connection to the surrounding environment.

Upstairs are two double bedrooms, including a generous main bedroom with a bay window and bespoke built-in wardrobes, alongside a compact bathroom with a bath and rainfall shower.

Throughout the home, natural materials and thoughtful details are evident - walls painted with natural linseed paint, strong insulation using sheep’s wool, and a smart home system controlling heating and lighting from your phone.

Criccieth is a vibrant community with walking routes, schools, shops, cafés and wild swimming on your doorstep - but here, it’s the sea that sits at the heart of everyday life.

A home for those who value simplicity, quality, and a more mindful way of living.

  • EPC – C

  • Council Tax Band – B

  • Gas Central Heating

  • Double glazed heritage sash windows throughout

  • Share of Freehold – upkeep costs are modest. In practical terms this means you share the annual building insurance premium and occasional exterior repairs with the other property 50/50.

  • LTT would not be payable on this property


EPC Rating: C

Ystafell Fyw / Living Room

4.77m x 4.46m

Ystafell fyw cynllun agored sy’n cynnwys lle eistedd a bwyta - y gofod cyntaf wrth ddod i mewn. Lloriau llechi naturiol gyda gwres o dan y llawr, a chypyrddau pren wedi’u hadeiladu’n arbennig sy’n cadw’r gofod yn dawel ac yn daclus. Mae’r drysau llithro’n agor i’r gegin, gan greu canolbwynt cymdeithasol perffaith. Waliau 'lime plaster', wedi’u paentio gyda phaent eco-gyfeillgar. Gofod cynnes, wedi’i insiwleiddio’n dda ac yn dawel.

An open-plan living and dining space - the first room you enter. Natural slate flooring runs throughout with the comfort of underfloor heating, while bespoke wooden cupboards keep the space calm and uncluttered. Pocket doors open into the kitchen, creating a sociable, flexible layout - ideal for both working from home and entertaining. Lime-plastered walls with eco paint, a highly insulated and peaceful space forming the heart of the home.

Cegin / Kitchen

2.96m x 3.52m

Gofod arbennig sydd wedi’i gynllunio’n ofalus - nid cegin arferol. Unedau bespoke gyda storfa glyfar, gan gynnwys pantri wedi’i guddio tu ôl i ddrysau. Ceir sinc Belffast a pheiriant golchi llestri integredig. Pren wedi’i baentio â phaent linseed naturiol, a sedd ffenestr Fictoraidd wreiddiol wedi’i dddarganfod a'i adnewyddu. Ffenestr sash yn edrych dros yr ardd, gyda drws gwydr paentiedig yn arwain allan a chilfach storio ymarferol.

A thoughtfully designed, bespoke kitchen with well-considered storage, including a concealed walk-in pantry. A Belfast sink and integrated dishwasher add practicality, while natural linseed-painted woodwork creates a soft, warm feel. An original Victorian window seat has been revealed, with a sash window overlooking the garden. A painted glass door leads outside, with a useful storage nook.

Toiled a 'Utility/ Bathroom and Utility

2.53m x 1.86m

Gofod ymarferol wedi’i leoli wrth ymyl y drws cefn - perffaith ar ôl diwrnod ar y traeth. Ceir toiled a sinc, ynghyd â chawod drydanol. Mae 'radiator' a phlymio ar gyfer peiriant golchi dillad yma hefyd, gan greu gofod defnyddiol sy’n addas ar gyfer bywyd bob dydd.

A practical space positioned beside the back door - ideal after a day at the beach. It includes a WC and sink, along with a stand-in electric shower. There is also a radiator and plumbing for a washing machine, making this a useful and functional everyday space.

Swyddfa Gardd / Garden Office

Ased gwych i’r cartref yw’r swyddfa ardd hon, wedi’i lleoli yn yr ardd dim ond camau o’r gegin. Gofod clyfar i weithio o adref, gyda thrydan a wifi wedi’u cysylltu. Mae wedi’i baentio â phaent Swedaidd hardd, wedi’i insiwleiddio’n dda ac mae ganddi dô 'byw' fel gardd fach - manylyn eco ystyriol sy’n ychwanegu at gymeriad y gofod.

A wonderful addition to the home, the garden office sits just steps from the kitchen within the garden itself. A clever space for working from home, complete with electricity and wifi. Finished in beautiful Swedish paint, it is insulated and even features a living garden roof - a thoughtful eco detail that adds to the character of the space.

Ystafell Molchi / Bathroom

2.45m x 1.01m

Ystafell ymolchi gryno sydd wedi gwneud defnydd clyfar o’r gofod. Ceir toiled a sinc yma, ynghyd â bath gyda chawod “rainfall” wedi’i chuddio’n daclus. Mae silffoedd agored a phaneli pren wedi’u paentio â phaent linseed naturiol yn ychwanegu cynhesrwydd a chymeriad, gan greu gofod ffres a chartrefol.

A compact bathroom that makes clever use of space. Here you will find a WC and sink, alongside a bath with a neatly integrated rainfall shower above. Open shelving and linseed-painted wooden panelling add warmth and character, creating a space that feels fresh, calm and considered.

Ystafell Wely 1 / Bedroom 1

3.19m x 3.15m

Ystafell wely ddwbl dawel a chysurus sy’n edrych dros yr ardd gefn ac yn derbyn golau’r prynhawn. Mae ffenestr sash draddodiadol fawr a lloriau pren gwreiddiol yn ychwanegu cynhesrwydd a chymeriad i’r gofod. Ceir silffoedd uwchben ynghyd â chilfach hyfryd ar gyfer desg - man perffaith i weithio o adref wrth y ffenestr gyda’r awel fôr ffres yn llifo i mewn.

Overlooking the rear garden, this peaceful double bedroom enjoys the afternoon light. A large heritage sash window and wooden floors create a calm and restful atmosphere, while overhead shelving and a thoughtful desk nook make it a lovely place to work from home beside the window, with the fresh sea air drifting through.

Ystafell Wely 2 / Bedroom 2

4.68m x 3.14m

Dyma’r brif ystafell wely - gofod eang a llawn golau gyda ffenestr bae fawr yn edrych dros flaen y t ac yn derbyn haul y bore. Mae lloriau pren gwreiddiol, nenfwd uchel a chypyrddau wedi’u hadeiladu’n arbennig yn ychwanegu cynhesrwydd a storfa ymarferol, gyda digon o le ar gyfer gwely mawr. Mae’r ffenestr bae yn creu’r man perffaith i eistedd gyda llyfr a gorffwys ar ddiwedd y dydd.

The main bedroom is spacious and filled with morning light through a large bay window overlooking the front of the house. Original wooden floors, high ceilings and bespoke built-in wardrobes add warmth and practicality, with plenty of room for a large bed. The bay window creates the perfect place to sit with a book and unwind - a calm escape at the end of the day.

Garden

Mae’r ardd hon yn un o uchafbwyntiau’r cartref - gofod heulog sydd bron yn teimlo fel estyniad naturiol o’r t ei hun. Mae’r cysylltiad rhwng y gegin a’r ardd wedi’i ystyried mor ofalus; ar ddiwrnod cynnes gellir agor y ffenestr sash a phasio bwyd a diodydd allan yn syth i ffrindiau sy’n eistedd yn yr haul.
Mae’r ardd wedi’i rhannu’n glyfar i greu gwahanol leoedd i fyw a mwynhau drwy’r dydd. Mae’r ardal fwyta yn gymdeithasol ac agored, gyda digon o le i ymgynyll gyda theulu a ffrindiau dros fwyd hir yr haf. Ychydig ymhellach ymlaen ceir cornel dawel gyda lle i osod cadeiriau haul a mwynhau’r haul drwy’r dydd mewn preifatrwydd.
Ar gefn yr ardd mae cegin awyr agored 'bespoke' wedi ei wneud â llechi - manylyn arbennig sy’n gwneud y gofod yn teimlo’n unigryw ac wedi’i greu ar gyfer byw’n araf a chysylltiedig. Mae’r swyddfa ardd hefyd yma, ynghyd â mynediad uniongyrchol allan i’r lôn gefn tawel sy’n arwain yn syth at y traeth o fewn eiliadau.
Mae’r ardd gyfan yn teimlo’n breifat, tawel a...

Parking - On street

Brochures

Property Brochure
COUNCIL TAXA payment made to your local authority in order to pay for local services like schools, libraries, and refuse collection. The amount you pay depends on the value of the property.Read more about council Tax in our glossary page.
Band: B
PARKINGDetails of how and where vehicles can be parked, and any associated costs.Read more about parking in our glossary page.
On street
GARDENA property has access to an outdoor space, which could be private or shared.
Private garden
ACCESSIBILITYHow a property has been adapted to meet the needs of vulnerable or disabled individuals.Read more about accessibility in our glossary page.
Ask agent

Energy performance certificate - ask agent

Lôn Dinas, Criccieth

Add an important place to see how long it'd take to get there from our property listings.

__mins driving to your place

Renovation potential
Recently sold & under offer
See similar nearby properties

About Catra, Covering Gwynedd

Gwynedd
Industry affiliations:Industry affiliation logo 0

Gwerthu cartrefi gyda chalon - dull gofalus a chreadigol yng Ngwynedd.

Rydym yn asiantaeth dai annibynnol wedi'i lleoli yng Ngwynedd, yn cynnig gwasanaeth personol a chynnes sy'n seiliedig ar gymuned a gofal.

Gyda dros ddegawd o brofiad mewn ffotograffiaeth broffesiynol, rydyn ni'n tynnu sylw at gymeriad unigryw pob cartref i ddod o hyd i'r prynwr cywir - nid unrhyw brynwr. Mae gwerthu'n benderfyniad mawr, ac rydyn ni yma i'ch tywys yn ofalus drwy'r broses, gyda chefnogaeth a gonestrwydd.

Fel aelodau o Propertymark NAEA gyda Thystysgrif Lefel 3 mewn Asiantiaeth Eiddo (Gwerthu), ac aelodau o'r Ombwdsmon Eiddo, gallwch ddibynnu arnom i ddarparu gwasanaeth proffesiynol o safon. Rydyn ni hefyd yn falch o allu cynnig ein holl wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o Gynnig Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg.

P'un a ydych yn symud ymlaen, yn dod yn ôl, neu'n cymryd cam newydd - byddwn ni yma i werthu eich cartref gyda gofal, creadigrwydd ac arbenigedd lleol.

Selling homes with heart - a mindful, creative approach in Gwynedd.

We're an independent estate agency based in Gwynedd, offering a personal, thoughtful service rooted in community and care.

With over ten years' experience in professional photography, we showcase each home's unique character to help find the right buyer - not just any buyer. Selling is a big decision, and we guide you through it mindfully, with clarity and support.

As Propertymark NAEA members with a Level 3 Certificate in Property Agency (Sales), and members of The Property Ombudsman, you can trust us to deliver a high standard of service. We're also proud to offer everything through the medium of Welsh as part of the Welsh Language Commissioner's Cynnig Cymraeg.

Whether you're moving on, moving back, or just beginning - we'll help sell your home with care, creativity and local insight.

Affordability

Monthly repayments£948
Property: £ 189,000
Deposit: £ 18,900
Interest rate: 5.33%
Term: 30 years
Powered byNatwest
These results are estimates and are only intended as a guide. Make sure you obtain accurate figures from your lender before committing to any mortgage. Your home may be repossessed if you do not keep up repayments on a mortgage.

Notes

These notes are private, only you can see them.

Staying secure when looking for property

Ensure you're up to date with our latest advice on how to avoid fraud or scams when looking for property online.

Visit our security centre to find out more

Disclaimer - Property reference 29a9a09f-7561-43f5-a401-11f95de2720f. The information displayed about this property comprises a property advertisement. Rightmove.co.uk makes no warranty as to the accuracy or completeness of the advertisement or any linked or associated information, and Rightmove has no control over the content. This property advertisement does not constitute property particulars. The information is provided and maintained by Catra, Covering Gwynedd. Please contact the selling agent or developer directly to obtain any information which may be available under the terms of The Energy Performance of Buildings (Certificates and Inspections) (England and Wales) Regulations 2007 or the Home Report if in relation to a residential property in Scotland.

*This is the average speed from the provider with the fastest broadband package available at this postcode. The average speed displayed is based on the download speeds of at least 50% of customers at peak time (8pm to 10pm). Fibre/cable services at the postcode are subject to availability and may differ between properties within a postcode. Speeds can be affected by a range of technical and environmental factors. The speed at the property may be lower than that listed above. You can check the estimated speed and confirm availability to a property prior to purchasing on the broadband provider's website. Providers may increase charges. The information is provided and maintained by Decision Technologies Limited.
**This is indicative only and based on a 2-person household with multiple devices and simultaneous usage. Broadband performance is affected by multiple factors including number of occupants and devices, simultaneous usage, router range etc. For more information speak to your broadband provider.

Map data ©OpenStreetMap contributors.