Hylands, Y Felinheli

- PROPERTY TYPE
Detached
- BEDROOMS
4
- BATHROOMS
2
- SIZE
1,302 sq ft
121 sq m
- TENUREDescribes how you own a property. There are different types of tenure - freehold, leasehold, and commonhold.Read more about tenure in our glossary page.
Freehold
Key features
- Detached four-bedroom home in an elevated position above Y Felinheli
- Spectacular panoramic views across the Menai Strait and towards Anglesey
- Exceptional front deck with glass balustrades and space for outdoor living
- Bright living room with log burner and direct access to the deck
- Flexible study/fourth bedroom ideal for home working or guests
- Kitchen with picture window, breakfast island, wine cooler and integrated appliances
- Five-tier garden offering multiple spaces for entertaining, relaxing and gardening
- Luxury hot tub, covered bar area and upper viewing deck
- Large garage and generous parking for up to seven vehicles
- Direct access to Trem y Foel and beautiful countryside walks from the top of the garden
Description
English Below
"Mae Hylands yn cynnig rhywbeth prin – golygfeydd sy'n gwneud i chi stopio ac edrych, a chymuned sy'n gwneud i chi deimlo'n gartrefol. Yma, mae'r Fenai a phentref Y Felinheli yn rhan o fywyd bob dydd."
Mae rhai tai yn ymwneud a'r ty ei hun. Mae eraill yn ymwneud a'r lleoliad. Mae Hylands yn ymwneud a'r olygfa.
Wedi'i leoli'n uchel uwchben Y Felinheli, mae'r cartref pedair ystafell wely hwn yn mwynhau'r hyn mae Catra yn credu yw un o'r golygfeydd gorau yn y pentref. O'r eiliad y byddwch yn cyrraedd, mae'r Fenai yn tynnu eich sylw. Mae'r llif y dwr a'r awyr yn newid drwy'r dydd a'r tymhorau, gan greu llun byw sy'n rhan o fywyd bob dydd yma.
Wrth ddringo'r grisiau at y ty, y peth cyntaf sy'n taro rhywun yw maint y dec blaen. Mae hwn yn ofod sydd wedi'i gynllunio i fyw ynddo. Mae digon o le ar gyfer bwrdd bwyta mawr, soffas ytu allan a chwmni da ar nosweithiau hir yr haf. Gyda ‘balustrade’ gwydr o amgylch yr ymyl, does dim byd yn torri'r cysylltiad rhwng y ty a'r olygfa. Dyma'r math o le sy'n gwneud i chi arafu, eistedd lawr a gwylio'r llanw yn newid.
I'r rhai sy'n dymuno mynd gam ymhellach, mae'r dec yn ddigon mawr i greu ystafell haul neu gonsyrfatri yn y dyfodol, gan wneud y gorau o'r lleoliad arbennig hwn.
Y tu mewn, mae'r cartref yn llawn golau naturiol. Mae'r cyntedd croesawgar yn cael ei fframio gan ffenestri mawr sy'n sicrhau nad ydych byth yn anghofio ble rydych chi. Mae'r ystafell fyw yn ofod clyd ond llachar gyda stôf goed a drysau llithro mawr sy'n agor yn ol allan i'r dec, gan gymysgu'r tu mewn a'r tu allan yn ddi-ymdrech.
Wrth ymyl yr ystafell fyw mae ystafell hyblyg a allai weithredu fel pedwaredd ystafell wely, swyddfa gartref neu ystafell hobiau.
Mae'r gegin a'r ardal fwyta yn parhau'r thema. Mae ffenestr fawr yn fframio'r Fenai fel pe bai'n lun ar wal, tra bod yr ynys ganolog yn golygu y gallwch goginio, sgwrsio a mwynhau'r olygfa ar yr un pryd. Mae ystafell ‘utility’ a thoiled defnyddiol yn cysylltu â'r gegin, gan gadw bywyd bob dydd yn drefnus ac yn ymarferol.
I fyny'r grisiau mae tair ystafell wely arall a'r ystafell ymolchi deuluol. Unwaith eto, y prif ystafell wely sy'n dwyn y sioe, gyda golygfeydd sy'n gwneud deffro yn y bore yn rhywbeth arbennig.
Ond efallai mai'r ardd yw cyfrinach orau Hylands.
Yn ymestyn i fyny'r llethr y tu ol i'r ty mae gardd aml-lefel sy'n llawn potensial. Mae pob lefel yn cynnig cyfle newydd – boed hynny'n swyddfa ardd, gardd lysiau, teras bwyta, ardal adloniant neu fan tawel i eistedd gyda llyfr. Mae'n fath o ardd sy'n esblygu gyda'i pherchnogion.
Yn barod, mae ‘hot tub’ moethus yn eistedd ymhlith y gwyrddni, tra bod dec mawr ar frig yr ardd yn cynnig golygfeydd anhygoel dros y Fenai ac Ynys Mon. Mae hefyd garej fawr, lle parcio helaeth a mynediad uniongyrchol i Trem y Foel y tu ol – stryd boblogaidd i deuluoedd gyda llwybrau cerdded hyfryd ar garreg y drws.
EPC - D
Band Treth Cyngor - E
Gwres Nwy Canolog
Ffenestri Haen Dwbwl drwy’r ty
Mae LTT yn daliadwy ar yr eiddo yma
"Hylands offers something rare – views that make you stop and look, and a community that makes you feel at home. Here, the Menai Strait and the village of Y Felinheli become part of everyday life."
Some homes are about the house itself. Others are about the location. Hylands is all about the view.
Perched high above Y Felinheli, this four-bedroom detached home enjoys what Catra believes to be one of the finest views in the village. From the moment you arrive, the Menai Strait captures your attention. The movement of the water and the ever-changing skies create a living picture that becomes part of everyday life here.
As you climb the steps to the property, the first thing that strikes you is the size of the front deck. This is a space designed to be lived in. There is ample room for a large dining table, outdoor sofas and long summer evenings spent with family and friends. Glass balustrades surround the deck, ensuring nothing interrupts the connection between the home and the view. It is the kind of place that encourages you to slow down, sit back and watch the tide come and go.
For those looking to make even more of the setting, the deck is large enough to accommodate a future sunroom or conservatory, allowing the views to be enjoyed all year round.
Inside, the home is filled with natural light. The welcoming entrance hall is framed by large windows, ensuring you never forget where you are. The living room is both cosy and bright, featuring a wood-burning stove and large sliding doors that open back onto the deck, effortlessly blending indoor and outdoor living.
Adjacent to the living room is a flexible room that could serve as a fourth bedroom, home office or hobby room.
The kitchen and dining area continue the theme. A large window frames the Menai Strait like a piece of artwork, whilst the central island allows you to cook, entertain and enjoy the view at the same time. A useful utility room and WC connect to the kitchen, helping to keep everyday life organised and practical.
Upstairs are three further bedrooms and the family bathroom. Once again, the principal bedroom steals the show, with views that make waking up each morning something special.
But perhaps Hylands' greatest secret is its garden.
Rising up the hillside behind the house is a multi-tiered garden full of opportunity. Each level offers a different possibility – whether that's a garden office, vegetable garden, dining terrace, entertainment space or simply a quiet corner to sit with a book. It is the kind of garden that evolves alongside its owners.
Already in place is a luxury hot tub nestled, whilst a large deck at the very top of the garden enjoys breathtaking views across the Menai Strait and Anglesey. The property also benefits from a large garage, generous parking and direct access onto Trem y Foel at the rear – a popular family-friendly street with beautiful countryside walks right on the doorstep.
EPC – D
Council Tax Band – E
Gas Central Heating
Double Glazed Throughout
LTT is payable on this property
EPC Rating: D
Ystafell Fyw / Living Room
4.45m x 3.81m
Yn llachar ac yn llawn golau naturiol, mae'r ystafell fyw sgwar hon yn gwneud y gorau o'i lleoliad arbennig. Gyda ffenestr i'r cefn a drysau llithro mawr yn agor allan i'r dec blaen, mae'r golau yn llifo drwy'r gofod drwy'r dydd. Wrth galon yr ystafell mae stof goed sy'n creu awyrgylch clyd yn ystod misoedd y gaeaf, lle gallwch ymlacio a gwylio'r glaw yn symud dros y Fenai. Yn yr haf, agorwch y drysau, gadewch yr awyr mor lifo i mewn a mwynhewch y cysylltiad di-dor rhwng y cartref a'r olygfa.
Bright and filled with natural light, this square-shaped living room makes the most of its remarkable setting. A rear window and large sliding doors opening onto the front deck allow daylight to flood the space throughout the day. At its heart sits a log burner, creating a cosy retreat during the winter months where you can relax and watch the weather roll across the Menai Strait. In summer, throw open the doors, let the sea air drift in and enjoy the seamless connection between inside and out...
Ystafell Wely / Swyddfa / Bedroom / Study
2.76m x 3.25m
Ar hyn o bryd yn cael ei defnyddio fel swyddfa gartref, mae'r ystafell hyblyg hon yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau. Gallai weithio'r un mor dda fel ystafell wely i westeion, ystafell hobiau neu ofod tawel i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd. Wedi'i lleoli rhwng y gegin a'r ystafell fyw, gyda golygfa tuag at gefn y ty, mae'n ofod sy'n teimlo'n dawel ac yn oerach yn ystod misoedd yr haf. Mae llawr parquet gwreiddiol wedi'i guddio o dan y llawr presennol yn yr ystafell hon, ac mae'r un llawr hefyd yn parhau drwy'r cyntedd.
Currently used as a home office, this versatile room offers a range of possibilities. It could just as easily become a guest bedroom, hobby room or a peaceful retreat away from the main living spaces. Positioned between the kitchen and living room, with an outlook towards the rear of the property, it remains naturally cool during the summer months. There is original parquet flooring hidden under this floor and carries through to the hallway.
Cegin a 'Stafell Fwyta / Kitchen Diner
6.59m x 3.16m
Yn llachar, yn gymdeithasol ac wedi'i lleoli i wneud y gorau o'r olygfa, mae'r gegin hon yn un o uchafbwyntiau'r cartref. Gyda ffenestr i'r cefn a ffenestr lun fawr yn edrych dros y Fenai, mae'n hawdd dychmygu dechrau'r diwrnod yma gyda phaned o goffi neu baratoi swper wrth i'r haul fachlud dros y d r. Wrth galon y gegin mae ynys ganolog gyda bar brecwast ac oergell gwin integredig, gan greu gofod naturiol i gasglu a difyrru. Mae'r gegin fodern hefyd yn cynnwys popty, hob, oergell a pheiriant golchi llestri integredig, gan gyfuno ymarferoldeb gyda golygfeydd arbennig.
Bright, welcoming and perfectly positioned to make the most of the view, the kitchen is one of the home's standout spaces. With a window to the rear and a large picture window overlooking the Menai Strait, it's easy to imagine starting the day here with a morning coffee or preparing supper as the sun sets over the water. At the heart of the modern room sits a central island with a breakfast bar and integrated wine
Utility
3.61m x 1.98m
Prin iawn yw gweld ystafell utility gyda golygfa fel hon! Gyda lle a phlymio ar gyfer peiriant golchi dillad a sychwr, sinc defnyddiol a digon o le storio ychwanegol, mae'r ystafell hon yn cynnig llawer mwy na dim ond utility. Gall hefyd weithredu fel pantri ymarferol, gan helpu i gadw'r gegin yn daclus, yn syml ac yn rhydd o 'clutter'. Gofod defnyddiol iawn sy'n gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws.
It's not often you come across a utility room with a view quite like this. With plumbing and space for a washing machine and tumble dryer, a useful sink and additional cupboard storage, this room offers far more than a typical utility space. It could easily double as a pantry, helping to keep the kitchen clutter-free and organised. A practical bonus room that makes everyday living that little bit easier.
Toiled / WC
1.84m x 0.9m
Wedi'i leoli'n gyfleus oddi ar y gegin a'r ystafell utility, mae'r toiled lawr grisiau hwn yn cynnwys sinc a thoiled. Yn ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd ac yn ddelfrydol ar gyfer gwesteion, mae ei leoliad ger y drws sy'n arwain allan i'r ardd hefyd yn ei wneud yn gyfleus iawn wrth dreulio amser yn yr awyr agored.
Conveniently positioned just off the kitchen and utility room, this downstairs WC comprises a wash basin and toilet. Practical for everyday family life and ideal for guests, its location close to the door leading out to the garden also makes it particularly useful when enjoying the outdoor spaces.
Prif Ystafell Wely / Primary Bedroom
4.53m x 3.78m
Yn debyg iawn i'r ystafell fyw o ran siap a naws, mae'r brif ystafell wely yn ofod hael i wely dwbl, llachar a hynod o dawel. Mae ffenestr ar un ochr yn edrych dros yr ardd, tra bod y ffenestr gyferbyn yn cynnig golygfeydd panoramig dros y Fenai a thuag at Ynys Mon. Mae'r golau'n newid drwy'r dydd, ond y bore yw'r amser arbennig yma – deffro i olygfa o'r d r a'r awyr yn ymestyn o'ch blaen. Ystafell sy'n gwneud dechrau a gorffen y dydd yn bleser.
Very similar in shape and feel to the living room, the principal bedroom is a generous double, bright and wonderfully peaceful space. A window to one side overlooks the tiered rear garden, whilst the window opposite enjoys panoramic views across the Menai Strait towards Anglesey. The light shifts beautifully throughout the day, but mornings are particularly special here – waking up to a view of the water and open sky stretching out before you. A room that makes both the beginning and end of the day feel a little more special.
Ystafell Wely 2 / Bedroom 2
3.28m x 2.78m
Ystafell dwbwl llachar sy'n edrych dros yr ardd gefn. Gan ei bod yn wynebu'r dwyrain, mae'r ystafell yn mwynhau golau bore hyfryd sy'n llifo i mewn drwy'r ffenestr. Yn ofod delfrydol fel ystafell plentyn, ystafell i westeion neu swyddfa gartref ychwanegol.
A bright double bedroom overlooking the rear garden. Facing east, the room enjoys beautiful morning light that streams through the window and offers pleasant views across the garden. A versatile space that would work equally well as a child's bedroom, guest room or additional home office.
Ystafell Wely 3 / Bedroom 3
3.78m x 3.15m
Yn edrych dros gefn y ty a'r ardd, mae'r ystafell wely ddwbl hon yn mwynhau golau bore hyfryd a golygfa braf i ddechrau'r dydd. Wedi'i lleoli'n gyfleus wrth ymyl yr ystafell ymolchi deuluol, mae'n ystafell gyfforddus a hyblyg sy'n addas fel ystafell i blentyn, gwesteion neu aelod o'r teulu.
Overlooking the rear garden and enjoying the morning sunshine, this double bedroom offers a pleasant green outlook and a peaceful feel. Conveniently positioned next to the family bathroom, it is a comfortable and versatile room, ideal as a children's bedroom, guest room or additional family accommodation.
Ystafell Molchi / Bathroom
3.13m x 1.84m
Wedi'i haddurno'n fodern mewn lliwiau niwtral ac yn cynnig digon o le ar gyfer bywyd teuluol, mae'r ystafell ymolchi hon yn cynnwys bath, cawod ar wahan, sinc, toiled a 'towel rail' wedi'i gwresogi. Un o'r nodweddion mwyaf defnyddiol yw'r cwpwrdd storio mawr, sy'n darparu lle gwerthfawr ar gyfer tywelion, dillad gwely a'r holl bethau sy'n tueddu i greu 'clutter' mewn ystafell ymolchi brysur.
Finished in neutral tones and designed with practicality in mind, the family bathroom comprises a bath, separate shower, wash basin, WC and heated towel rail. One of its most useful features is the large storage cupboard, providing valuable space for towels, bedding and all the essentials that come with everyday family life.
Garden
Un o nodweddion mwyaf cyffrous Hylands yw'r ardd. Yn ymestyn dros lefel wahanol, mae'n cynnig llawer mwy na gardd draddodiadol – mae'n gyfres o ofodau awyr agored sy'n llawn posibiliadau ac yn esblygu gyda'u perchnogion.
Ar waelod yr ardd mae dec bach a storfa goed ddefnyddiol, lle perffaith i gefnogi'r stof goed yn y ty yn ystod misoedd y gaeaf. Wrth ddringo'r grisiau i'r lefel nesaf, mae sied storio sydd ar hyn o bryd yn cael ei defnyddio ar gyfer offer gardd a storfa gyffredinol. Yr hyn sy'n gwneud y gofod hwn yn arbennig yw bod trydan eisoes wedi'i osod yma. I ni yn Catra, mae'n hawdd dychmygu'r adeilad hwn yn cael ei drawsnewid yn swyddfa ardd, stiwdio neu weithdy creadigol. Mae gweithio o'r fan hon gyda'r olygfa dros y Fenai yn rhywbeth arbennig iawn.
Y lefel nesaf yw gardd lawnt gyda 'hot tub' moethus sy'n cynnwys jets a Bluetooth integredig er mwyn chwarae cerddoriaeth tra'n ymlacio. Gerllaw mae ardal bar dan do, gan greu lle gwych ar gyfer adloniant, ymlacio a threulio...
Balcony
Mae'r dec blaen yn un o'r mannau hynny sy'n gwneud i chi stopio yn eich traciau. Yn ymestyn ar draws blaen y ty, mae'n ofod hael ei faint sy'n manteisio'n llawn ar yr olygfa anhygoel dros y Fenai. O'r fan hon, mae'r dwr bron yn teimlo o fewn cyrraedd, gyda golygfeydd sy'n newid drwy'r dydd wrth i'r llanw, y golau a'r tywydd greu cefndir byth-newidiol.
Mae maint y dec yn golygu bod digon o le i greu gwir ystafell fyw awyr agored, gyda byrddau bwyta, soffas a mannau i ymlacio neu ddifyrru. I'r rhai sy'n chwilio am hyd yn oed mwy o ofod byw, mae potensial cyffrous yma i ychwanegu ystafell haul neu gonsyrfatri oddi ar yr ystafell fyw, gan wneud y gorau o'r lleoliad arbennig hwn drwy gydol y flwyddyn.
Mae grisiau'n arwain i fyny o'r ffordd at y dec, tra bod 'balustrade' gwydr yn amgylchynu'r gofod, gan sicrhau bod y golygfeydd yn aros yn ddi-dor ac yn cynnig tawelwch meddwl ychwanegol i deuluoedd gyda phlant neu gwn.
Dyma'r math o le sy'n troi paned foreol yn ddefod ac yn gwneud i wydrai...
Parking - Driveway
Mae Hylands yn cynnig rhywbeth prin iawn yn Y Felinheli – digonedd o le parcio. Mae'r perchennog presennol wedi buddsoddi'n helaeth i greu man parcio mawr ar flaen yr eiddo, gyda lle i hyd at chwe cherbyd. Boed yn deulu gyda sawl car, ymwelwyr yn galw heibio neu rywun sydd angen lle i gwch neu fan, mae'r gofod yma yn fantais enfawr. Yng nghefn yr eiddo mae garej fawr gyda lle parcio ychwanegol o'i blaen, gan gynnig storfa a hyblygrwydd gwerthfawr.
Hylands offers something rarely found in Y Felinheli – an abundance of parking. The current owner has invested significantly in creating a large parking area at the front of the property, with space for up to six vehicles. Whether you have a growing family, regular visitors or simply need room for a boat, van or multiple cars, this is a valuable asset. To the rear of the property sits a large garage with an additional parking space in front, providing excellent storage and further flexibility for day-to-day living.
Brochures
Property Brochure- COUNCIL TAXA payment made to your local authority in order to pay for local services like schools, libraries, and refuse collection. The amount you pay depends on the value of the property.Read more about council Tax in our glossary page.
- Band: E
- PARKINGDetails of how and where vehicles can be parked, and any associated costs.Read more about parking in our glossary page.
- Driveway
- GARDENA property has access to an outdoor space, which could be private or shared.
- Private garden
- ACCESSIBILITYHow a property has been adapted to meet the needs of vulnerable or disabled individuals.Read more about accessibility in our glossary page.
- Ask agent
Hylands, Y Felinheli
Add an important place to see how long it'd take to get there from our property listings.
__mins driving to your place
Affordability
Get an instant, personalised result:
- Show sellers you’re serious
- Secure viewings faster with agents
- No impact on your credit score
Notes
Staying secure when looking for property
Ensure you're up to date with our latest advice on how to avoid fraud or scams when looking for property online.
Visit our security centre to find out moreDisclaimer - Property reference 35cfbe32-6ca2-4bae-be21-1e255415202d. The information displayed about this property comprises a property advertisement. Rightmove.co.uk makes no warranty as to the accuracy or completeness of the advertisement or any linked or associated information, and Rightmove has no control over the content. This property advertisement does not constitute property particulars. The information is provided and maintained by Catra, Covering Gwynedd. Please contact the selling agent or developer directly to obtain any information which may be available under the terms of The Energy Performance of Buildings (Certificates and Inspections) (England and Wales) Regulations 2007 or the Home Report if in relation to a residential property in Scotland.
*This is the average speed from the provider with the fastest broadband package available at this postcode. The average speed displayed is based on the download speeds of at least 50% of customers at peak time (8pm to 10pm). Fibre/cable services at the postcode are subject to availability and may differ between properties within a postcode. Speeds can be affected by a range of technical and environmental factors. The speed at the property may be lower than that listed above. You can check the estimated speed and confirm availability to a property prior to purchasing on the broadband provider's website. Providers may increase charges. The information is provided and maintained by Decision Technologies Limited. **This is indicative only and based on a 2-person household with multiple devices and simultaneous usage. Broadband performance is affected by multiple factors including number of occupants and devices, simultaneous usage, router range etc. For more information speak to your broadband provider.
Map data ©OpenStreetMap contributors.





